Cyfarfod ar y
cyd: Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ofal Hosbis a Gofal
Lliniarol a Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Angladdau a
Phrofedigaeth
Cofnodion
2 Ebrill
2025
Yn bresennol:
|
Mark Isherwood
AS (Cadeirydd)
|
Liz Booyse,
Hosbis y Ddinas
|
|
Matthew
Brindley, Hospice UK (Ysgrifennydd)
|
Natasha Davies,
Marie Curie
|
|
Rebecca Aylott,
Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau (NAFD)
(Ysgrifennydd)
|
Irfon Rees,
Tŷ Hafan
|
|
Huw Owen,
Tŷ Gobaith / Tŷ Hafan
|
Lesley Bethell,
Cymru Garedig
|
|
Tracy Jones,
Tŷ Hafan
|
Andrea Powell,
Cruse Bereavement
|
|
Thea Brain,
Fforwm Gofal Cymru
|
Dafydd
Huw, Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion
|
|
Tomos Evans,
Marie Curie
|
Y Farwnes Ilora
Finlay
|
|
Darren Rutland,
Cymdeithas Clefyd Huntingdon (HDA)
|
Hilary Watson, y
Gymdeithas MS
|
|
Heather
Ferguson, AGE Cymru
|
Jen Mills,
Cymdeithas MND
|
|
Jack Sunderland,
Caldecott and Sons
|
Laura Hugman,
Hosbis yn y Cartref Paul Sartori
|
|
Jodie Beck,
Hospice UK
|
Mari
Vaughan-Owen, Dyneiddwyr y DU
|
|
Lee Barnett,
Sandy Bear
|
Alexander Owen,
staff cymorth Aelod o’r Senedd
|
|
Martin Jones,
Sandy Bear
|
Dr Sarah Davies,
Meddyg Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr
|
|
Philip Blatchly,
Philip Blatchly & Son (trefnwyr angladdau)
|
Terry Tennens,
Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau Perthynol ac
Annibynnol (SAIF)
|
|
Steven
Crane-Jenkins, BASW Cymru
|
Dr Jason
Shannon, Archwilydd Meddygol Arweiniol Cymru
|
|
Dr Victoria
Wheatley, Ymgynghorydd Gofal Lliniarol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Hywel Dda
|
Andrew Judd,
NAFD
|
|
Eleanor Hunt,
The Woollen Cwtch Company
|
Rachel
Bradburne, NAFD
|
|
Tyler
Troy
|
Doug Nairn,
NAFD
|
|
Rhys Price,
Gwilym C. Price Son & Daughters (trefnwyr angladdau)
|
Kathy Riddick,
Dyneiddwyr y DU
|
Ymddiheuriadau:
|
Darren Millar
AS
|
Janet
Finch-Saunders AS
|
|
Jane Dodds
AS
|
Llyr Gruffydd
AS
|
|
Heather Hughes,
2Wish
|
Verity Sterling,
Yr Eglwys yng Nghymru
|
|
Iestyn Davies,
Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
|
Andy Goldsmith,
Hosbis Plant Tŷ Gobaith / Hope House
|
|
John Moss,
Rheolwr Rhaglen y Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol, Llywodraeth
Cymru
|
Gethin Rhys,
Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
|
|
Carol Davies,
Cymdeithas Clefyd Huntingdon
|
Brendan Day,
Safon Angladdau Glôb Gwyrddach
|
|
Paula Williams,
Papyrus
|
Stephen Tom,
Phillip Tom & Sons
|
|
Y Parchedig
Nicola Frail, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
|
|
Gair o
groeso gan y Cadeirydd, cofnodion y cyfarfod blaenorol, a materion
sy’n codi
Croesawodd
Mark Isherwood AS bawb i'r cyfarfod, gan ddiolch yn benodol
i’r siaradwyr gwadd, sef y Farwnes Finlay a Dr Jason Shannon,
am roi o’u hamser i roi cyflwyniadau.
Cafodd
cofnodion cyfarfod blaenorol y Grŵp Trawsbleidiol ar Angladdau
a Phrofedigaeth eu cadarnhau gan [ni chafodd enw’r cynigydd
ei gofnodi], a’u heilio gan Philip Blatchly.
Rhoddodd
Mark Isherwood AS y wybodaeth ddiweddaraf am faterion a oedd yn
codi yn sgil gwaith y Grŵp Trawsbleidiol ar Angladdau a
Phrofedigaeth:
-
Yn gyntaf,
mae gohebiaeth wedi'i hanfon er mwyn cadarnhau safbwynt Llywodraeth
Cymru ynghylch prosiect Comisiwn y Gyfraith ar gladdu ac amlosgi, a
hynny yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus a ddaeth i ben ym mis
Ionawr.
-
Yn ail, yn
dilyn y trafodaethau a gafodd aelodau’r grŵp ynghylch
darpariaeth gwasanaethau post-mortem digidol yng Nghymru, mae gohebiaeth wedi'i
hanfon at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch natur yr
ystyriaeth y gallai awdurdodau lleol fod wedi'i rhoi i ariannu
hyn.
-
Yn drydydd,
yn sgil ymddiheuriad Llywodraeth Cymru yn gynharach eleni i
deuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth, ynghylch yr oedi sydd
wedi dod i’r amlwg mewn perthynas ag angladdau a’r
broses ardystio marwolaethau, mae’r grŵp wedi cytuno i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ynghylch yr oedi hyn. Y gobaith yw y bydd y sylwadau a
wneir yn y cyfarfod heddiw yn cael eu hadlewyrchu yn yr ohebiaeth
hon.
Cafodd
cofnodion cyfarfod blaenorol y Grŵp Trawsbleidiol ar Ofal
Hosbis a Gofal Lliniarol eu cadarnhau gan Liz Booyse a’u
heilio gan Tracy Jones.
Rhoddodd
Mark Isherwood AS y wybodaeth ddiweddaraf i aelodau’r
grŵp am faterion a gododd yn sgil cyfarfod diwethaf y
Grŵp Trawsbleidiol ar Ofal Hosbis a Gofal
Lliniarol:
-
Ysgrifennodd
y Grŵp Trawsbleidiol at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gofal Cymdeithasol ynghylch yr heriau y mae hosbisau Cymru yn eu
hwynebu, darpariaeth gofal lliniarol i blant ledled Cymru, ac
effaith ‘Ymhellach, yn Gyflymach’ ar ddarpariaeth gofal
lliniarol a gofal diwedd oes yn y gymuned. Cafwyd ymateb gan yr
Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â hosbisau Cymru. Hefyd,
ar ôl cyfnod sylweddol o oedi, mae’r Ysgrifennydd
Cabinet newydd ddarparu ymateb ynghylch darparu gofal lliniarol i
blant, ac effaith ‘Ymhellach, yn Gyflymach’. Bydd yr
ymateb hwn yn cael ei rannu ag aelodau perthnasol o’r
grŵp yn fuan.
Sbotolau ar
y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd
Oes) a'i oblygiadau posibl ar gyfer gofal lliniarol a gofal
diwedd oes yng Nghymru – Y Farwnes Ilora Finlay
Rhoddodd y
Farwnes Finlay gyflwyniad ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl
(Diwedd Oes) a'i oblygiadau posibl ar gyfer gofal lliniarol a gofal
diwedd oes yng Nghymru.
Materion
allweddol a drafodwyd:
-
Dywedodd y
Farwnes Finlay fod y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes),
yn dilyn y broses o’i ddiwygio yn ystod y Cyfnod Pwyllgor,
wedi cael ei wanhau'n sylweddol, yn enwedig o ran mesurau diogelwch
allweddol. Tynnodd sylw at nifer o faterion, gan
gynnwys:
-
-
y newidiadau
sydd eu hangen o ran Deddf y GIG
-
rhwystrau o
ran y Gymraeg ac ieithoedd eraill a allai effeithio ar
gydsyniad
-
yr angen am
gyfraith sy'n ddiogel i bawb
-
yr heriau
a’r bylchau sy’n bodoli ar hyn o bryd o ran cael
mynediad at ofal lliniarol a'r angen inni amddiffyn a gwella'r hyn
sydd gennym
-
materion
sy’n ymwneud â’r gweithlu gofal lliniarol
a’r heriau a allai godi yn y dyfodol os caiff y Bil ei
weithredu
-
problemau o
fewn y Bil ynghylch y ffaith nad yw meddygon yn gallu gofyn i
berson pam ei fod am ddod â'i fywyd i ben
-
cwestiynau
ynghylch effeithiolrwydd meddyginiaethau a ragnodir i ddod â
bywyd person i ben
-
Diolchodd
Mark Isherwood AS i Ilora. Dywedodd fod y Grŵp Trawsbleidiol
wedi cael gwybod am heriau posibl y Bil o ran siaradwyr Cymraeg.
Nododd hefyd fod y Senedd wedi pleidleisio mewn egwyddor yn erbyn
marw â chymorth y llynedd.
-
Disgrifiodd
Dr Victoria Wheatley yr heriau sydd wedi codi wrth geisio recriwtio
ym maes gofal lliniarol yng ngorllewin Cymru. Nid oes gan chwarter
y bobl fynediad at wely mewn hosbis. Dywedodd fod angen dyrannu mwy
o adnoddau i’r sector gofal lliniarol.
-
Dywedodd Dr
Sarah Davies fod angen rhoi sylw arbennig i'r bobl agored i niwed y
mae’r sector yn gofalu amdanynt, yn enwedig wrth ystyried
newidiadau i'r Ddeddf Hunanladdiad. Tynnodd sylw hefyd at yr heriau
y mae gwasanaethau gofal lliniarol yng ngogledd Cymru yn eu hwynebu
ar hyn o bryd.
-
Dywedodd Dr
Jason Shannon y gallai archwilwyr meddygol chwarae rôl
allweddol o ran deall profiadau pobl o’r broses o farw
â chymorth pe bai'r Bil yn cael ei gyflwyno. Pe bai’r
Bil yn cael ei basio, byddai angen newid y rheoliadau presennol
sy’n gysylltiedig â hysbysu marwolaeth.
-
Dywedodd y
Farwnes Finlay nad oes gan Archwilwyr Meddygol rôl yn y Bil
ar ei ffurf bresennol. Tynnodd sylw at bryderon ynghylch y ffaith
na fyddai camgymeriadau yn cael eu canfod pe bai'r ddeddfwriaeth
bresennol yn cael ei chyflwyno.
-
Disgrifiodd Eleanor Hunt o The Woollen Cwtch Company
ei phrofiadau gwael o ran ceisio sicrhau gofal lliniarol a gofal
diwedd oes i'w thad yng nghanolbarth Cymru. Gofynnwyd iddo lofnodi
cytundebau ‘peidiwch â dadebru’ yn rheolaidd pan
nad oedd yn fodlon gwneud hynny. Er nad oedd unrhyw fwriad yn
perthyn i hyn, roedd yn teimlo fel gorfodaeth.
-
Dywedodd
Dafydd Huw o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion fod gan y coleg
safbwynt niwtral ar y Bil, ond bod ganddo bryderon ynghylch
rhwystrau iaith.
-
Ymatebodd y
Farwnes Finlay gan ddweud ei bod yn pryderu bod dealltwriaeth ac
ymwybyddiaeth seiciatryddion o'r Bil yn
gyfyngedig.
Diweddariad ynghylch y Cynllun Archwilwyr Meddygol
yng Nghymru a sut mae'n cyd-fynd â'r strategaeth ehangach ar
gyfer gofal profedigaeth – Dr Jason Shannon, Archwilydd
Meddygol Arweiniol Cymru
Materion
allweddol a drafodwyd:
- Nododd Dr Jason Shannon ei bod yn bwysig rhoi cyfle i
deuluoedd sy’n galaru ofyn cwestiynau am achos y farwolaeth
dan sylw ac i godi unrhyw broblemau neu bryderon sydd ganddynt.
Nododd fod mwy o deuluoedd sy’n galaru yng Nghymru yn
manteisio ar y cyfle i siarad â'r Archwilydd Meddygol (ME) am
eu pryderon gofal na’r hyn a welir mewn unrhyw fan arall yn y
DU. Dywedodd Dr Jason Shannon fod y gwasanaeth yn rhoi llais i bobl
sydd wedi dioddef profedigaeth, a bod y gwasanaeth wedi'i warantu
a'i sefydlu drwy annibyniaeth a didueddrwydd yr Archwilydd
Meddygol.
- Roedd Dr Jason Shannon yn cydnabod bod yr amser
canolrifol ar gyfer cofrestru marwolaeth yng Nghymru yn rhy uchel
ar hyn o bryd, a’i fod wedi bod felly ers tua mis Rhagfyr
2024, pan ddechreuodd y trafferthion sy’n effeithio ar y
system gyfan. Nododd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar y problemau
a’r datrysiadau posibl.
- Gofynnodd Rachel Bradburne a fyddai modd i’r
NAFD a'r sector ehangach wneud unrhyw beth pellach i
gynorthwyo’r broses, fel rhanddeiliaid, yn ogystal â'r
gwaith ymgysylltu sy’n cael ei wneud â Llywodraeth
Cymru ar hyn o bryd. Dywedodd Dr Jason Shannon fod trefnwyr
angladdau, yn benodol, yn gallu darparu cymorth drwy sicrhau bod
ganddynt wybodaeth berthnasol am y broses o gofrestru marwolaethau,
gan gynnwys rôl a chyfrifoldebau'r Archwilydd Meddygol. Gall
y wybodaeth hon lywio eu gwaith o ran cefnogi teuluoedd sydd wedi
dioddef profedigaeth.
- Gofynnodd Mark Isherwood AS am y sensitifrwydd
sy’n gallu bod yn gysylltiedig â materion ffydd a
materion diwylliannol. Dywedodd Dr Jason Shannon fod gwasanaeth yr
Archwilydd Meddygol yn cydnabod nifer o sefyllfaoedd posibl lle
gallai fod angen prosesu achosion ar frys, gan gynnwys oherwydd
gofynion ffydd. Dywedodd fod y gwasanaeth yn rheoli'r achosion
hynny yn llwyddiannus.
- Soniodd Dr Jason Shannon a Dr Sarah Davies am yr
heriau sy’n bodoli o ran lliniaru materion amserlennu a
chapasiti sy’n gysylltiedig ag Ymarferwyr a fu’n Gweini
ac Archwilwyr Meddygol, a bod digideiddio Tystysgrifau Meddygol
Achos Marwolaeth yn debygol o helpu gyda'r heriau hyn, yn ogystal
â datrys problemau rhyng-gysylltedd o fewn byrddau
iechyd.
- Dywedodd Rhys Price fod gan bawb rôl i'w
chwarae o ran symleiddio a gwella’r broses ar gyfer teuluoedd
sydd wedi dioddef profedigaeth. Nododd hefyd fod swyddogion yr
Archwilwyr Meddygol yn ceisio helpu, ond bod trefnwyr angladdau yn
aml yn cael anawsterau gyda system ffôn yr Archwilydd
Meddygol, sef y 'goeden ffôn', wrth geisio cael y
wybodaeth ddiweddaraf ar ran teuluoedd sydd wedi dioddef
profedigaeth. Mae trefnwyr angladdau yn gweithredu fel
cynrychiolwyr enwebedig ar gyfer y teuluoedd hynny. Nododd fod
diffyg dealltwriaeth ymhlith teuluoedd ynghylch pam mae pethau'n
cymryd cyhyd, a bod angen gwell ymwybyddiaeth o'r broses ymhlith
meddygon. Cytunodd Dr Jason Shannon i rannu’r sylwadau
ynghylch y 'goeden ffôn'.
- Gofynnodd Eleanor Hunt am y disgwyliadau o ran oedi
yn ystod y gaeaf a’r gwaith cynllunio sy’n cael ei
wneud. Soniodd Jack Sunderland, trefnydd angladdau sydd wedi'i
leoli yn Wrecsam, am y gymhariaeth rhwng gwasanaethau Archwilwyr
Meddygol yng Nghymru a Lloegr yng nghyd-destun cyfathrebu.
Diolchodd Dr Jason Shannon i Jack am ei sylwadau ar y sefyllfa
drawsffiniol, gan gydnabod yr heriau sylweddol sydd wedi dod
i’r amlwg, yn enwedig yn ystod y gaeaf, pan arweiniodd bwysau
at gyfnodau o oedi wrth gofrestru marwolaethau.
- Cytunodd Mark Isherwood AS a Rebecca Aylott ar gamau
gweithredu parthed cofnodi materion sy’n ymwneud â
digideiddio, cysylltedd systemau a chynllunio ar gyfer y gaeaf, a
hynny drwy waith dilynol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Gwnaethant gytuno hefyd i wahodd rywun sy’n cynrychioli
crwneriaid i gyfarfod yn y dyfodol.
Unrhyw fater arall
- Cytunodd y grŵp y byddai cynrychiolydd o Papyrus
yn rhoi cyflwyniad yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol
ar Angladdau a Phrofedigaeth.
- Cadarnhaodd Mark Isherwood AS y byddai cyfarfodydd
nesaf y Grwpiau Trawsbleidiol yn debygol o gael eu cynnal ym mis
Gorffennaf 2025, ac y byddai’r manylion hynny'n cael eu cadarnhau a'u rhannu
maes o law gan yr ysgrifenyddion priodol.